26/5/06
Tyfu’r Dyfodol
Cynhadledd ar fwyd organig a bwyd lleol mewn ysgolion
Dylai pawb sy’n ymwneud â bwyd mewn ysgolion, o ffermwyr a thyfwyr i staff caffael, cogyddion, athrawon a gwahanol asiantaethau’r llywodraeth a grwpiau cymunedol, gydweithio i sicrhau bod ein pobl ifanc yn bwyta gwell bwyd. Dyna oedd y neges cynhadledd a gynhaliwyd yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru ger yr Wyddgrug ar ddydd Iau 25 Mai.
Bu’r cyn-weinidog amaeth, Mike German AC, yn sôn am ei brofiadau yn gweithio ar giniawau ysgol yn Sir Fynwy, lle lansiwyd prosiect ysgol-gyfan gyda chwe ysgol yn ddiweddar. Hefyd, ysbrydolwyd y gynulleidfa gan Caroline Jones, rheolwr busnes Ysgol Uwchradd y Trallwng. Soniodd am benderfyniad ei hysgol i eithrio o reolaeth yr awdurdod lleol a dywedodd eu bod yn prynu eu holl gig, llaeth, llysiau a rhai bwydydd eraill yn lleol erbyn hyn, peth ohono o ffermydd organig. Dywedodd bod mwy o blant yn dewis bwyta cinio ysgol ar ôl iddynt ddechrau cynnig llai o sglodion a byrgers a dechrau prynu bwyd yn lleol. Yn wir, mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau profi ar gyfer bwydlenni newydd.
Cafwyd sgwrs gan Gwyn Thomas sy’n croesawu disgyblion ysgol i’w fferm yn Eryri yn rheolaidd. Hefyd, pwysleisiodd Teresa Owen, maethegydd iechyd cyhoeddus, bod angen sicrhau bod gwaith ymchwil gwyddonol i ddeiet a maeth yn gysylltiedig â phrosiectau ymarferol i wella deiet plant yng Nghymru. Esboniodd Mark Simkin, pennaeth y Coleg sut yr oeddent yn hyfforddi tyfwyr ffrwythau a llysiau ar gyfer y dyfodol, yn ymwneud â maes caffael cyhoeddus, ac yn cydweithio ag ysgolion ar brosiectau garddio.
Canolbwynt y diwrnod oedd cinio o fwyd lleol gyda’r cynhyrchwyr yn gweini ar y cynadleddwyr gan roi cyfle iddynt gwrdd â’i gilydd. Mwynhawyd sosejis o Stad Rhug, tatws a mefus o ardd fasnachol yng Nghilgwri, byrgers byffalo, iogwrt gan Llaeth-y-Llan, dail salad o’r Coleg a bara cartref ymhlith bwydydd eraill.
Trefnwyd y gynhadledd gan Ganolfan Organig Cymru mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru, Coleg Garddwriaeth Cymru a Chymdeithas y Pridd. Y noddwyr oedd Cadwyn Clwyd a Hybu Cig Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Hon oedd ail gynhadledd Tyfu’r Dyfodol. Cynhaliwyd y gyntaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Medi 2005. Ceir mwy o fanylion yn www.organic.aber.ac.uk/schoolsnet.
Cysylltiadau
Jane Powell, Canolfan Organig Cymru, jnp@aber.ac.uk, ffôn 01970 622248.