Cenfaint organig o frîd prin o foch yw Harmony Herd. Mae’r moch Oxford Sandy & Black yn crwydro’n rhydd yn y caeau, yn gwneud gwalau wrth droed y cloddiau ac yn ymdryboli yn y pwll dŵr. Mae’r teuluoedd moch yn aros gyda’i gilydd a’r rhai bach yn cael eu diddyfnu’n naturiol. Gan ein bod yn eu magu’n organig, rydym yn rhoi llawer o ofal i’r anifeiliaid. Dydyn ni ddim yn torri eu cynffonnau na’u dannedd nac yn eu sbaddu. Mae moch Oxford Sandy & Black yn gyfeillgar iawn ac maen nhw’n mwynhau cwmni pobl. Maen nhw wrth eu bodd pan fyddwch yn crafu eu cefnau ac maen nhw’n gorwedd wrth eich traed gan rochian a sgwrsio.
Yn ogystal, mae gennym genfaint o foch Baedd Gwyllt X a baedd o'r enw Pumba'n llywodraethu drostynt. Mae'r rhesi ar gefnau’r moch bach yn golygu eu bod yn ymdoddi i’r cefndir sy’n golygu eu bod yn anodd iawn i’w cyfrif.
Rydym yn gwerthu porc a chig Baedd Gwyllt, bacwn, sosejis a gamon trwy farchnadoedd ffermwyr yn Hwlffordd, Aberteifi, Aberystwyth a Dinbych-y-pysgod. Galwch draw a bydd yn bleser gennym drafod ein cynnyrch a’n dulliau ffermio. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.
Gwefan