Sefydlwyd y busnes ym 1998 ac mae’n cadw at ffyrdd traddodiadol o fagu moch pedigri Gloucester Old Spot a Berkshire ynghyd â rhai wedi’u croesi â moch Tamworth a baeddod gwyllt. Defnyddir bwydydd naturiol heb ychwanegion artiffisial i sicrhau bod y cig yn aeddfedu’n araf. Mae sosejis, gamon a bacwn ar gael mewn pecynnau gwactod, ynghyd â bacwn wedi’i halltu’n sych, ffagots ac wyau maes. Gellir prynu ½ mochyn o ddarnau cig ar wahân.