Sefydlwyd y siop fferm yn 1983 ac mae’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig. Cewch gyfle i brynu llysiau, ynghyd â chig lleol, cynnyrch llaeth, amrywiaeth o gaws, hufen iâ cacennau a chyffeithau. Maent wedi ennill teitl “Siop Fferm Orau Cymru” a gwobr yng nghystadleuaeth Gwobrau Busnes Ceredigion 2002 ac wedi eu cydnabod gan Les Routiers. Mae’r Fferm 8 milltir o Aberteifi ar yr A487, ac ar agor bron bob dydd.