Cyfeirlyfr Bwyd | Manwerthu

Manwerthu

Siop / Deli

Chwilio o fewn 'Manwerthu'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Face of Flowers

Y Delicatessan

Ultracomida

Blaencamel Farm

Rydym yn cynhyrchu ac yn gwerthu salads, llysiau a thatws organig yn syth o’r fferm. Mae gennym braidd pedigri o ddefaid Ile de France sy’n cynhyrchu cig a gwlân organig (organig ers 1974). Ar agor bob dydd ar gyfer llysiau a salads ffres. Llwybrau trwy’r coed a gerddi ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Celtic Country Wines

Sefydlwyd y cwmni teuluol ym 1989, ac erbyn heddiw maent yn creu amrywiaeth o winoedd ffrwyth pur a gwirodydd. Maent hefyd yn gallu darparu pecynnau rhodd ar gyfer unrhyw achlysur, prisiau o £13.50 - £125.00

Cig Oen Caron

Busnes cig traddodiadol sy’n cynnwys yr unig ladd-dy bach yn yr hen Ddyfed a chyfleusterau torri adderchog. Mae’r lladd-dy, sydd wedi’i gorfrestru gan gymdeithas y Pridd, yn darparu cig ar gyfer ei siop yn Nhregaron ac yn prosesu cig ar gyfer cigyddion a chynhyrchwyr lleol. Maent hefyd yn gwneud selsig, byrgers ac ati.

Keith Davies

A family Business of 28 years, trading 6 days a week. Providing a butchery, grocer, and greengrocer and off licence service, selling all local produce.

Jones Bros

Cigydd teuluol traddodiadol sy’n arbenigo mewn cig ffres lleol a chigoedd parod.

Sefydlodd y teulu fusnes tyfu ffrwythau meddal yn 1986 ar gyfer y farchnad “Tynnu eich hun” a phobl lleol. Defnyddir y ffrwythau sydd dros ben i wneud cyffeithiau arbennig o flasus, er enghraifft mefus a siampên, gwsberis a mint, mafon a kirsch, a cyrens duon a phort.

Siop Fferm Llwynhelyg

Sefydlwyd y siop fferm yn 1983 ac mae’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig. Cewch gyfle i brynu llysiau, ynghyd â chig lleol, cynnyrch llaeth, amrywiaeth o gaws, hufen iâ cacennau a chyffeithau. Maent wedi ennill teitl “Siop Fferm Orau Cymru” a gwobr yng nghystadleuaeth Gwobrau Busnes Ceredigion 2002 ac wedi eu cydnabod gan Les Routiers. Mae’r Fferm 8 milltir o Aberteifi ar yr A487, ac ar agor bron bob dydd.

Maes yr Onnen Organic Strawberries

Mefus wedi cael eu tyfu yn organig, i’w casglu eich hun o Fehefin diweddar trwyddo i Orffennaf.

Mentro Lluest

Elusen sy’n dysgu pobl sydd ag anghenion arbenni i arddio yw Mentro Lluest. Maent yn tyfu llysiau a ffrwythau meddal organig ar dir sydd wedi ei gorfrestru gan Gymdeithas y Pridd. Gallwch hefyd brynu planhigion a basgedi crôg o’r safle sydd ar agor rhwng 10 – 4 o’r gloch, dydd Llun hyd ddydd Gwener.

John the Fish

Mae “O Fôr i Fynydd” yn foto addas ar gyfer busnes John Thomas. Bu’n yn prynu pysgod o Aberdaugleddau ac yn eu gwerthu o gwmpas Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ers ymhell dros 30 mlynedd, Yn ogystal â’r fan bysgod, mae ganddo siop ac mae’n gwerthu pysgod o’r safon uchaf i lawer o westai a bwytai lleol.

New Quay Honey Farm

Yn ogystal â chynhyrchu mêl mae’r New Quay Honey Farm yn ddefnyddio mêl i wneud mwstard, siytni, ffydj a medd o ansawdd uchel iawn.

Y Felin

Mae Melin Llandudoch yn dal i gynhyrchu blawd yn y ffordd draddodiadol, a dŵr yr afon sy’n dal i droi’r rhôd heddiw. Cewch gyfle i wylio’r felin wrth ei gwaith cyn profi bara a danteithion cartef yn y caffi.

W B Evans

Cigydd Teuluol ers dros 50 mlynedd, yn cynhyrchu cig o’r gât i’r plat, yn gwerthu cig eidion a chig oen cartref, a dofednod maes dros y Nadolig.

G C Evans

Sefydlwyd y busnes hanner canrif yn ôl ac maent yn arbenigo mewn gwerthu cig lleol.

Siop Pysgod Cei Newydd

Busnes cydweithredol ers dros 30 mlynedd yn werthu pysgod a physgod cregyn yn syth i’r cyhoedd. Maent yn arbenigo mewn mecryll ffres yn eu tymor ac yn cymryd archebion am gimychiaid.