Directory | View Member | Rhydlewis Trout Farm and Smokery

Rhydlewis Trout Farm and Smokery

Busnes bychan teuluol sy’n rhedeg eu tŷ mwg eu hunain ers blynyddoedd. Caiff y bwydydd eu sychu yn y ffordd draddodiadol dros dân derw a’u dosbarthu ledled Cymru yn ogystal ag i Ffrainc, yr Eidal ac America. Mae siop ar y safle’n gwerthu dewis da o gynnyrch lleol, yn cynnwys bwydydd mwg, jam, siytni ac ati. Mae yno ddigon o le i barcio, toiledau a chyfleusterau gwneud te a choffi am ddim. Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd at y llyn. Mae pysgotwyr lleol yn dod â’u samon a’u sewin i’w cochi a’u tafellu. Cewch ddal eich pysgod eich hunan yn ein llyn pysgota tair erw sy’n agored i’r cyhoedd trwy’r flwyddyn (gellir prynu trwydded bysgota yn y Swyddfa Bost leol). Yn y llyn mae brithyll seithliw a fagwyd gennym – rhai ohonynt yn pwyso dros 10 pwys.

Manylion Cyswllt

Mr B Jennings & Mrs R Collins
Rhydlewis Trout Farm
Rhydlewis
Llandysul
SA44 5QS
Dosbarthu:
Ydi
Ardal Daearyddol:
O Fewn 50 Milltir
Prif Farchnad Cyflenwi:
Syth i’r cwsmer, Siop Fferm, Cyfanwerthu, Trwy’r Post, Marchnadoedd Ffermwyr