Prosiect
Gair am Wasanaeth Cefnogi Cynhyrchwyr Ceredigion II
Prosiect Amcan Un yw hwn. Mae’n cael ei ran-ariannu gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a'i ddarparu gan Antur Teifi, a’i gefnogi gan nifer o gyrff yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, Awdurdod Datblygu Cymru, Canolfan Organig Cymru, Medrwn a Chynllun Ansawdd Twristiaeth Ceredigion.
Mae’n ceisio annog a chefnogi datblygiad economaidd cynaliadwy ymhlith cynhyrchwyr bwyd a chrefftau Ceredigion a hyrwyddo'r diwylliant lleol. Cafodd y prosiect ei gymeradwyo ym mis Ionawr 2005 fel menter dair blynedd a bydd yn adeiladu ar lwyddiant cymal cyntaf Gwasanaeth Cefnogi Cynhyrchwyr Ceredigion. Dyma rai o’i amcanion:
- Helpu cynhyrchwyr i ddatblygu marchnadoedd newydd
- Helpu i ddatblygu digwyddiadau i hyrwyddo bwydydd, crefftau a’r diwylliant lleol
- Datblygu mentrau twristiaeth wedi’u seilio ar fwyd a chrefftau yn y sir
- Cynnig cyngor a hyfforddiant ar brosesau caffael cyhoeddus
- Hyrwyddo Ceredigion fel lle i ymwelwyr ddod i fwynhau cynnyrch o safon uchel
Mae’r prosiect yn gweithio ar draws ffiniau. Mae’n cydweithio â nifer o wahanol fathau o gynhyrchwyr bwyd o lawer o sectorau gan eu cefnogi a chynnig gwasanaethau amrywiol: -
- Eitem yn ein cyfeirlyfr bwyd chwiliadwy ar-lein a sefydlwyd i hyrwyddo bwydydd lleol
- Gwybodaeth trwy ein cylchlythyrau chwarterol
- Cyngor a help i farchnata a hyrwyddo digwyddiadau
- Cymorth, cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth am faterion busnes
Os hoffech ragor o wybodaeth neu wneud cais am gymorth i hyrwyddo’ch digwyddiad chi, llanwch y ffurflen sylwadau ar y dudalen ‘cysylltwch â ni’. Neu gallwch gysylltu'n uniongyrchol â ni. Mae ein rhif ffôn ar y dudalen ‘gair amdanom ni’.