Hydref

applescarrotBlack

 

Mwyar Duon
Ydych chi’n cofio mynd i gasglu mwyar o’r cloddiau a’r caeau yn yr hydref a chyrraedd adref â’ch jwg yn llawn a’ch dwylo’n biws ac yn grafiadau i gyd? A oes rhywbeth yn fwy blasus na’r darten neu’r crymbl mwyar neu afalau a mwyar yr oedd eich mam neu’ch mam-gu yn arfer eu gwneud neu jam mwyar ar eich tost yn y bore?

Ychydig o blant sy’n mynd i gasglu mwyar erbyn hyn ac, yn aml, dim ond mewn pecynnau mewn archfarchnad y maen nhw’n eu gweld.  Mae’r mwyar yn barod pan fyddan nhw wedi troi’n dew ac yn dywyll ond byddwch yn ofalus lle byddwch yn eu casglu a chofiwch eu golchi cyn eu bwyta. Yn ogystal â tharten, crymbl neu jam, gallwch wneud pob math o wahanol bwdinau, fel hufen iâ a phwdin ffrwythau’r haf â mwyar.  Mae sawl busnes cartref yng Ngeredigion sy’n gwneud jam blasus iawn. 

Pannas
Mae pannas yn cael eu cysylltu’n aml â chinio Nadolig ond maen nhw i’w cael trwy’r gaeaf, o’r hydref ymlaen.  Dywedir bod gwell blas arnynt ar ôl cael rhew gan fod hynny’n troi peth o’r startsh yn siwgr.  Gallwch eu coginio mewn gwahanol ffyrdd – rhostio, berwi, stwnsho – a gellir eu rhoi mewn cawl hefyd.  Mae llysiau gwraidd fel hyn yn llawn fitaminau a mwynau a gallwch eu prynu o’ch siop fferm neu’ch marchnad ffermwyr leol.

Ffesant
Mae ffesant wedi dod yn boblogaidd unwaith eto wrth i bobl flino â ffowls wedi’u gor-gynhyrchu.  Slawer dydd, roedd pobl yn meddwl amdanynt fel bwyd y cyfoethog ond erbyn hyn maent i’w cael mewn nifer fawr o siopau cig fel y gall mwy ohonom brofi blas cyfoethog cig yr aderyn hyfryd hwn.

Llysiau a Ffrwythau
Afalau
Betys
Bresych Coch
Cnau Cyll
Corn Melys
Cwrens Duon
Eirin Duon
Moron
Mwyar Duon
Puprynnau
Pwmpenni
Ysgewyll
Winwns

Cig
Cig Oen

Pysgod
Ysbinbysg y Môr