Cyfeirlyfr Bwyd | Bara ac Ati

Bara ac Ati

Chwilio o fewn 'Bara ac Ati'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Cerdin Foods

Sefydlwyd y busnes ym 1983 gan gyflenwi bwydydd organig, cacennau a nwyddau eraill. Maent ar agor 6 diwrnod yr wythnos o 9 tan 5.

Cwca Catre

Sefydlwyd Cwca Cartre gan bedair gwraig sy’n arbenigo mewn pobi cartref a gwneud cyffeithiau gan ddefnyddio cynnyrch lleol

Homebake

Llinos Elias Pies and Cakes

Rhedir y busnes pobi pastai a chacennau gartref, gan ddefnyddio cymaint o gynhwysion lleol ag sy’n bosib. Maent yn cyflenwi nifer o siopau a chaffis yn y dalgylch, ac mae galw mawr am eu gwasanaeth arlwyo a’u cacennau dathlu.

Dilys Morgan

Ers 2000, mae Dilys wedi gwerthu Bara Brith a theisennau amrywiol mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau lleol a Chegin Cymru yn Aberaeron. Gwneir Cyffeithiau o gynnyrch tymhorol.

old Mill Bakery

Mae “Old Mill Bakery” yn cynhyrchu amrywiaeth eang o deisennau traddodiadol ac yn arbenigo mewn creu cacennau priodas a dathlu, o safon uchel ac at ddant pawb. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth arlwyo allanol.

Popty Bach y Wlad

Lleolir y fenter deuluol adref ar y fferm, gan arbenigo mewn cacennau a chyffeithiau. Maent yn cyflenwi siopau lleol gydag amrywiaeth o gynnyrch, yn cynnwys bara brith, pice ar y maen, bara a chacennau, wedi’u seilio ar hen ryseitiau’r teulu. Maent yn rhedeg caffi ym Mhlas Dinefwr, Llandeilo ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, galwch draw am de Cymreig heb ei ail!

Queens Bakery

Bu’r teulu yn rhedeg y busnes am dros 70 mlynedd ac erbyn hyn maent wedi perffeithio’r grefft o grasu bara, creu teisennau blasus a chacennau phiodas addurnedig.

Rheidol Restaurant & Bakery

Mae croeso i chi alw draw i’r caffi rhwng 9 y bore a 7.30 yr hwyr er mwyn profi prydau tri chwrs sylweddol, griliau ac amrywiaeth o fyrbrydau. Mae’n becws yn arbenigo mewn cacennau hufen a dathlu, gauteaux, a phobi traddodiadol Cymreig.

Tregroes Waffle Bakery

Mae Tregroes Waffles yn cynhyrchu waffles amrywiol ac yn eu gwerthu ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a’r Amerig

Y Felin

Mae Melin Llandudoch yn dal i gynhyrchu blawd yn y ffordd draddodiadol, a dŵr yr afon sy’n dal i droi’r rhôd heddiw. Cewch gyfle i wylio’r felin wrth ei gwaith cyn profi bara a danteithion cartef yn y caffi.

H Pollak & Feibion

Peter's Pancakes

Pancakes

Popty Bach y Wlad

Cacenau a jamiau cartref. Gwneir pob cacen gartref gan ddefnyddion cynnyrch lleol.

Popty Pencae

Brynwel Bakery

The Hot Bread Shop

Y Popty

Briwsion