Cyfeirlyfr Bwyd | Pysgod a Bwyd Môr

Pysgod a Bwyd Môr

Chwilio o fewn 'Pysgod a Bwyd Môr'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Avondale Fish

Mae Chris Davies wedi bod yn pysgota am sewin ac eog ar y Teifi ers 35 mlynedd. 10 mlynedd yn ôl, arallgyfeiriodd i ddal crancod a chimychiaid.

Fish on the Quay

Maent yn prynu crancod a chimychiaid gan bysgotwyr lleol ac yn gwerthu i ymwelwyr o bell ac agos. Byddant yn gwerthu mecryll, ysgadan a dreanogod y môr yn eu tymor.

John the Fish

Mae “O Fôr i Fynydd” yn foto addas ar gyfer busnes John Thomas. Bu’n yn prynu pysgod o Aberdaugleddau ac yn eu gwerthu o gwmpas Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ers ymhell dros 30 mlynedd, Yn ogystal â’r fan bysgod, mae ganddo siop ac mae’n gwerthu pysgod o’r safon uchaf i lawer o westai a bwytai lleol.

New Quay Fish Shop

Busnes cydweithredol ers dros 30 mlynedd yn werthu pysgod a physgod cregyn yn syth i’r cyhoedd. Maent yn arbenigo mewn mecryll ffres yn eu tymor ac yn cymryd archebion am gimychiaid.

Rhydlewis Trout Farm and Smokery

Busnes bychan teuluol sy’n rhedeg eu tŷ mwg eu hunain ers blynyddoedd. Caiff y bwydydd eu sychu yn y ffordd draddodiadol dros dân derw a’u dosbarthu ledled Cymru yn ogystal ag i Ffrainc, yr Eidal ac America. Mae siop ar y safle’n gwerthu dewis da o gynnyrch lleol, yn cynnwys bwydydd mwg, jam, siytni ac ati.

Maggie B Products

James Briddon

Cynhyrchwr pysgod