Cyfeirlyfr Bwyd | Ffrwythau a LLysiau

Ffrwythau a LLysiau

Chwilio o fewn 'Ffrwythau a LLysiau'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Blaencamel Farm

Rydym yn cynhyrchu ac yn gwerthu salads, llysiau a thatws organig yn syth o’r fferm. Mae gennym braidd pedigri o ddefaid Ile de France sy’n cynhyrchu cig a gwlân organig (organig ers 1974). Ar agor bob dydd ar gyfer llysiau a salads ffres. Llwybrau trwy’r coed a gerddi ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Ceri Organic

Rydyn ni’n tyfu llysiau organig ac yn gwerthu cynnyrch lleol ffres o safon uchel i’n cwsmeriaid e.e. cig, wyau, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau.

Cynhyrchwyr Organic Clettwr

Grŵp bach o ffermwr neu gynhyrchwyr, pob un ohonynt wedi’u cofrestru gan Gymdeithas y Pridd ac yn credu’n gryf mewn cyflenwi llysiau, ffrwythau ac wyau organig i gwsmeriaid lleol am brisiau cystadleuol. Maent yn gwerthu eu cynnyrch yn lleol.

Drefach Organic Nursery

Rydym yn arbenigo mewn tyfu tomatos bach organig a llysiau gwyrdd y gwanwyn. Cofrestrwyd gyda Chymdeithas y Pridd.

Goerge Trem

Bu’r ardd fasnachol yma yn tyfu letys, ciwcymbers a thomatos blasus ers blynyddoedd. Maent yn hefyd yn tyfu planhigion a llysiau i’w plannu gartref ac mae ganddynt siop flodau ger hen Bont Aberteifi ar heol Llandudoch.

Lloyds Of Penlanlas

Sefydlodd y teulu fusnes tyfu ffrwythau meddal yn 1986 ar gyfer y farchnad “Tynnu eich hun” a phobl lleol. Defnyddir y ffrwythau sydd dros ben i wneud cyffeithiau arbennig o flasus, er enghraifft mefus a siampên, gwsberis a mint, mafon a kirsch, a cyrens duon a phort.

Siop Fferm Llwynhelyg

Sefydlwyd y siop fferm yn 1983 ac mae’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig. Cewch gyfle i brynu llysiau, ynghyd â chig lleol, cynnyrch llaeth, amrywiaeth o gaws, hufen iâ cacennau a chyffeithau. Maent wedi ennill teitl “Siop Fferm Orau Cymru” a gwobr yng nghystadleuaeth Gwobrau Busnes Ceredigion 2002 ac wedi eu cydnabod gan Les Routiers. Mae’r Fferm 8 milltir o Aberteifi ar yr A487, ac ar agor bron bob dydd.

Maes yr Onnen Organic Farm Shop

Gwerthu ffrwythau a llysiau tymhorol a chynnyrch fferm eraill megis wyau a caws - cynnyrch lleol ag organig. Mefus wedi cael eu tyfu yn organig, i’w casglu eich hun o Fehefin diweddar trwyddo i Orffennaf.

Mentro Lluest

Elusen sy’n dysgu pobl sydd ag anghenion arbenni i arddio yw Mentro Lluest. Maent yn tyfu llysiau a ffrwythau meddal organig ar dir sydd wedi ei gorfrestru gan Gymdeithas y Pridd. Gallwch hefyd brynu planhigion a basgedi crôg o’r safle sydd ar agor rhwng 10 – 4 o’r gloch, dydd Llun hyd ddydd Gwener.

Corfestrwyd Nantclyd gyda Chymdeithas y Pridd yn 1989, ac oddi ar hynny maent wedi ennill nifer o wobrau am eu cynnyrch ac am eu gwaith cadwraeth. Tyfir mefus a llysiau tymhorol.

Organic Farm Foods

Sefydlwyd Organic Farm Foods Ltd gan grŵp o dyfwyr organig ym 1984 i greu marchnad ar gyfer llysiau organig ffres ledled Prydain. Daeth gorllewin Cymru i gael ei nabod fel prif ganolfan organig Prydain. Aeth Organic Farm Foods ati i chwilio am ffrwythau, stwff salad a llysiau o bedwar ban byd a oedd yn cyrraedd safonau organig uchel, yn cynnwys bwydydd masnach deg.

Rhydlewis Organic Produce

Rydym yn tyfu llysiau organig gan gyflenwi dewis da o lysiau a dyfir mewn caeau ac mewn poly-dwneli. Rydym yn rhoi pwyslais ar ansawdd a ffresni.

Dolgoch

Llysiau

Llety'r Cymro

Tatws

Maesyffin Mushrooms

Mae Madarch Maesyffin yn tyfu madarch shiitake organic mewn awyr ffres yng Nghorllewin Cymru.