Croeso i Gyfeirlyfr Bwyd Ceredigion

Bwyd

I ddathlu amrywiaeth ein cynnyrch lleol, chwiliwch drwy ein cyfeirlyfr busnesau i ganfod cyflenwyr sy'n arbenigo mewn ystod eang o fwyd a diod.

NoCroeso i hafan Cyfeiriadur Bwyd Ceredigion.Yma, cewch chwilio drwy’r cyfeiriadur cynhyrchwyr am eich cyflenwyr lleol, cewch fynd i’n tudalen ddigwyddiadau i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi neu cewch eich ysbrydoli i greu prydau blasus o’n tudalen o ryseitiau tymhorol.

NoBeth sydd gan Geredigion i’w gynnig?

Mae sir Ceredigion yn cynhyrchu cyfoeth o fwydydd, yn cynnwys ffrwythau a llysiau organig; cacennau, bara a bisgedi cartref; pob math o wahanol gawsiau; hufen iâ a iogwrt. 

Mae hefyd yn enwog am ei physgod ffres – o gimychiaid i fecryll – a’r cyfan wedi’u dal yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion. Mae hyn i gyd, ynghyd â’r cig oen a’r cig eidion lleol blasus, yn gwneud Ceredigion yn baradwys i bobl sy'n gwerthfawrogi bwyd da.