Gyda galw cynyddol am fwydydd lleol a rhanbarthol, mae cynnwys bwydydd lleol ar eich bwydlenni neu eu cynnig yn eich mannau gwerthu nid yn unig yn dda i dwristiaeth, ond yn synhwyrol o ran busnes.
Mae defnyddio bwyd lleol yn dda i’ch busnes – mae ‘n ffaith!
- Mae 81% o’r bobl sy'n ymweld â’r rhanbarth am weld bwydydd lleol ar y fwydlen ac maent yn fodlon talu mwy amdanynt (Arolwg Ymwelwyr Bannau Brycheiniog 2005).
- Mae defnyddwyr yn fodlon talu oddeutu 13% yn fwy am fwydydd Cymreig neu leol (Ymchwil i’r Sector Gwasanaeth Bwyd gan Beaufort 2005)
Mae'r rhaglen hon o ddigwyddiadau yn cynnig gwledd o weithgareddau ac mae'r cyfan AM DDIM. Mae’r digwyddiadau’n addas i bawb – pen-cogyddion, cogyddion, rheolwyr prynu a pherchnogion. Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig, ac felly mae’n well cadw lle yn gynnar trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir ar gyfer pob digwyddiad.
Rhaglen
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd Dwristiaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru
Dydd Gwener 19/1/07
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion. 10.30am – 3.30pm
Bydd y gynhadledd yn cynnwys cinio cynnyrch lleol, a Bwrdd Caws Cymreig yn cael ei gyflwyno gan Ed Hammond, perchennog Siop Fwydydd Blasau ym Machynlleth. Wedi’i threfnu ar y cyd gan Dwristiaeth Canolbarth Cymru a Medrwn.
Cyswllt: Twristiaeth Canolbarth Cymru, Ffôn: 01654 702653 Ebost: info@midwalestourism.co.uk
Cyfarfod â Chynhyrchwyr Ceredigion
Dydd Mawrth 23/1/07
Gwesty TyGlyn Aeron, Aberaeron, Ceredigion. 11.00am – 3.00pm
Cyfle i gyfarfod â chynhyrchwyr Bwydydd a Diodydd Ceredigion, mwynhau arddangosiadau coginio sy’n defnyddio’u cynnyrch, a chael cardiau ryseitiau a syniadau ynglŷn â chynllunio a phrisio bwydlenni.
Yn cael ei gynnal gan Gefnogi Cynhyrchwyr Ceredigion II - dan reolaeth Antur Teifi.
Cyswllt: Rhiannon Thomas, Ffôn: 01239 710238; Ebost: rthomas@anturteifi.org.uk
Brecinio Brecwast Fferm
Dydd Mercher 24/1/07
Fferm Porth, Caersws, Powys. 10.30am - 12.30pm
Cyfle i ddarganfod syniadau am frecwastau a breciniawau cyflym, hawdd a chreadigol, gyda chymorth y gogyddes leol, Lavinia Vaughan.
Cyswllt: Ffôn: 01686 622388, Ebost: cath@midwalesfoodandlandtrust.org.uk
Rownd Derfynol Ranbarthol Is-ben-cogydd Cymru
Dydd Mercher 24/1/07
Coleg Powys, Y Drenewydd, Powys.
Y gystadleuaeth i gael hyd i Is-ben-cogydd Canolbarth Cymru yn cyrraedd uchafbwynt. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, Ffôn: 0870 7700155, Ebost: info@cambriantraining.com
Noson Agored a Chyfarfod â'r Cynhyrchwr
Nos Iau 1/2/07
Siop Fwydydd Blasau, Machynlleth, Powys. 5.30pm – 7.00pm.
Yn ei siop fwydydd arbenigol â'i dewis gwych o fwydydd lleol, bydd Ed Hammond yn rhannu ei wybodaeth helaeth am gawsiau a chynhyrchion cig gorau’r rhanbarth.
Cyswllt: Ed Hammond, Ffôn: 01654 700410
Canolbarth Cymru – Naws am Le – defnyddio’r iaith a chynnyrch lleol
Dydd Llun 5/2/07
Ystafell Gynadledda Ricardo Pearce , Castell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd. 9.00am - 4.00pm
Bydd y digwyddiad hwn ar y cyd rhwng Bwrdd yr laith Gymraeg a Medrwn, yn canolbwyntio ar fanteision defnyddio’r iaith Gymraeg yn eich busnes. Bydd yn cynnwys lansio'r fenter newydd, Iaith ar y Bwrdd, yn ogystal a gweithdy ar ddefnyddio bwydydd lleol i hyrwyddo naws am le trwy gyfrwng eich bwydlenni, a gwers meistr ar gawsiau Cymreig. Cyswllt: Rhiannon Gomer, Ffôn: 01286 684707/ 684700, Ebost: rhiannon.gomer@bwrdd-yr-iaith.org.uk
Eich Cig ar Waith
Dydd Mawrth 6/2/07 Gwesty Wynnstay, Machynlleth, Powys.
Dydd Llun 5/3/07 Castell PowIs, Y Trallwng, Powys.
Y ddau ddigwyddiad 10.30am – 2.30pm
Dewch i ddysgu mwy am ein cig eidion a chig oen Cymreig byd-enwog, ynghyd â dysgu am gefndir y gwahanol ddarnau o gig a sut i'w defnyddio. Bydd y cinio’n cynnwys dewis o gigoedd Cymreig.
Noddir a chyflwynir y digwyddiadau hyn gan Hybu Cig Cymru. Cyswllt: Ffôn: 01686 622388, Ebost: cath@midwalesfoodandlandtrust.org.uk
Y Picnic Perffaith a Chroeso Cynnes
Dydd Iau 8/2/07Siop Thomas, Penybont, Llandrindod Wells, Powys.1.30pm – 4.30pm
Dydd Gwener 9/2/07 Plasdy Bryn Tegid, Bala, Meirionnydd 1.30pm – 4.30pm
Bydd basgedi croeso a phecynnau picnic o fwydydd lleol yn cyflwyno’ch gwesteion i flas o Ganolbarth Cymru. A bydd hyn yn gyfle delfrydol i fusnesau hunanarlwyo a Gwely a Brecwast gynnig rhywbeth gwahanol.
Cyflwynir y digwyddiadau hyn gan Medrwn. Cyswllt: Ffôn: 01654 704201, Ebost: enquiries@medrwn.org.uk
Gwledda ar Bysgod
Dydd Mawrth 20/2/07 Gwesty Tŷ’n y Cornel , Tal-y-Llyn, Tywyn, Meirionnydd. 9.30am – 12.30pm
Dydd Mercher 7/3/07 Y Cwch Gwenyn ar y Cei, Aberaeron, Ceredigion. 10.30am – 2.30pm
Bydd y tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ymwneud â’r pysgod a bwyd môr sydd i’w cael ger glannau Canolbarth Cymru yn ôl y tymor, ac yn dangos sut i’w gweini. Bydd gwledd o bysgod ar gael i ginio yn y Cwch Gwenyn ar y Cei.
Cyflwynir y digwyddiad gan Dudley Newbury ar ran Medrwn. Cyswllt: Ffôn: 01654 704201, Ebost: enquiries@medrwn.org.uk
Noddir y digwyddiad yn Y Cwch Gwenyn ar y Cei, Aberaeron, gan Antur Teifi. Cyswllt: Ffôn: 01686 622388, Ebost: cath@midwalesfoodandlandtrust.org.uk
Pencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru
Dydd Mawrth 20/2/07– Dydd Iau 22/2/07
Coleg Llandrillo Cymru, Llandudno, Conwy.
Bydd y rhaglen genedlaethol hon o ddigwyddiadau cystadleuol yn cynnwys Rownd Derfynol Pen-cogydd Cenedlaethol Cymru ac Is-ben-cogydd Cymru. i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Peter Jackson, Ebost: ptrjck@aol.com
Sioe Deithiol Croeso Cymru
Dydd Llun 15/3/07
Gwesty Metropole, Llandrindod, Powys.
Cyfle i ddysgu mwy am Groeso Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru. Bydd bwydydd lleol yn thema ar gyfer gweithdy rhyngweithiol. Bydd cyflenwyr bwydydd a diodydd Cymreig yn arddangos eu cynhyrchion a bydd tapas Cymreig yn cael eu gweini.
Byddwch cystal â llenwi'r Ffurflen Archebu Sioeau Twristiaeth 2007 ar-lein yn www.cymru.gov.uk/twristiaeth
Bwyd Go iawn
Dydd Mercher 21/3/07
Y Cwch Gwenyn ar y Cei, Aberaeron, Ceredigion. 10.30am – 3.30pm
Cyfle i ddysgu am fwyd nodedig o ansawdd uchel sy’n cael ei dyfu a’i werthu’n lleol. Mae hwn yn fwyd o systemau ffermio cynaladwy sydd yn aml, ond nid bob amser, yn organig. Mae hefyd yn fwyd na chafodd ei addasu’n enetig ac mae'n deillio o anifeiliaid a gafodd y gofal gorau.
Trefnir gan Ganolfan Organig Cymru fel rhan o brosiect RAFAEL Interreg. Cyswllt: Carolyn Wacher, Ffôn: 01970 621852, Ebost: ccw@aber.ac.uk;
|
Sônam Fwyd – Gwneud Iddo Ddigwydd Dydd Llun 26/3/07 Adeilad Hafod Hendre, Maes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, Powys. 10.00am – 3.00pm Cyfle i gyfarfod â chynhyrchwyr bwydydd a diodydd Cymru, siarad â chyfanwerthwyr a dosbarthwyr bwyd ynglŷn â chael hyd i fwydydd lleol, a chael cyngor arbenigol ynglŷn â gwneud bwydydd lleol yn nodwedd allweddol o’ch busnes. Cyswllt: Ffôn: 01686 622388, Ebost: cath@midwalesfoodandlandtrust.org.uk |
Cynhadledd Dwristiaeth Flynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Dydd Iau 29/3/07 (i’w gadarnhau)
Gwesty'r Castell, Aberhonddu, Powys. 11.00am – 2.00pm
Y gynhadledd dwristiaeth flynyddol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys gweithdy ar ansawdd ac amrywiaeth bwydydd brecwast a gynhyrchir o fewn terfynau’r Parc. Cyswllt: Carol Williams, Ffôn: 01874 620478, Ebost: carol.williams@beacons-npa.gov.uk
Gŵyl Bwyd a Diod Gourmet Llanwrtyd
Dydd Sadwrn 7/4/07
Neuadd Bromsgrove a’r Gerddi, Llanwrtyd, Powys. 10.30am - 5.00pm
Mae pobl eisiau mwynhau bwydydd lleol wrth geisio adnabod Canolbarth Cymru – dewch i’r ŵyl i weld drosoch eich hun. Dros 40 o gynhyrchwyr, ynghyd ag arddangosiadau pen-cogydd gan Peter James, perchennog a phen-cogydd y Drovers Rest a Dosbarthiadau Meistr Ysgol Goginio J&R
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Peter James, Ffôn: 01591 610264 / 01591 610444, Ebost: foodfoodfood@lycos.com
|
Beth am weld sut mae Cymru’n cymharu â gweddill y DG o ran bwyd – ymwelwch â’r ddau ddigwyddiad cenedlaethol hyn am ddiwrnod gwahanol! Hospitality 2007 Dydd Llun 22/1/07– Dydd Iau 24/1/07 NEC Birmingham Arddangosfa genedlaethol yn benodol ar gyfer y sector gwasanaeth bwyd a lletygarwch. Gwefan: www.hospitalityshow.co.uk IFE07 Dydd Sul 18/3/07– Dydd Mercher 21/3/07 Ardal Dociau Llundain Y byd bwyd a diod cyfan yn mynd i Lundain. Gwefan: www.ife.co.uk |
- Mae 70% o ddefnyddwyr Prydain eisiau prynu bwyd lleol ac mae 49% eisiau prynu mwy nag ar hyn o bryd (FFB/IGD 2006).
- Mae 86% o drigolion Canolbarth Cymru’n dewis lle newydd i fwyta allan, yn seiliedig ar argymhellion personol (Ymchwil Gwir Flas Beaufort 2006)
- Mae 47% o drigolion Canolbarth Cymru’n bwyta allan o leiaf unwaith y mis (Ymchwil Gwir Flas Beaufort 2006)
- Byddai 89% o ddefnyddwyr yn hoffi gweld bwydydd Cymreig neu leol ar y fwydlen (Ymchwil i’r Sector Gwasanaeth Bwyd gan Beaufort 2005)
- Ond, o blith y busnesau hynny sy’n gweini bwydydd Cymreig neu leol, nid yw 40% bob amser yn dweud wrth y cwsmer (Ymchwil i’r Sector Gwasanaeth Bwyd gan Beaufort 2005)