Cyfeirlyfr Bwyd | Cig a Chynnyrch Cig

Cig a Chynnyrch Cig

Chwilio o fewn 'Cig a Chynnyrch Cig'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Aberporth Butchery

Cigydd teuluol sy’n cynnig dewis ardderchog o gig ffres a chig parod. Rydym yn arbenigo mewn Cig Gwartheg Duon Cymreig. Rydym yn gwneud ein sosejis, ein byrgers a’n ffagots ac ati ein hunain ac rydym yn cynnig pecynnau barbeciw yn yr haf. Ar agor 6 diwrnod yr wythnos, 9am - 5pm.

Blaencamel Farm

Rydym yn cynhyrchu ac yn gwerthu salads, llysiau a thatws organig yn syth o’r fferm. Mae gennym braidd pedigri o ddefaid Ile de France sy’n cynhyrchu cig a gwlân organig (organig ers 1974). Ar agor bob dydd ar gyfer llysiau a salads ffres. Llwybrau trwy’r coed a gerddi ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Caermynydd Piggery

Busnes Teuluol yn arbenigo mewn cynhyrchu a phrosesu porc a bacwn cartref.

Ceri Organic

Rydyn ni’n tyfu llysiau organig ac yn gwerthu cynnyrch lleol ffres o safon uchel i’n cwsmeriaid e.e. cig, wyau, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau.

Cig Oen Caron

Busnes cig traddodiadol sy’n cynnwys yr unig ladd-dy bach yn yr hen Ddyfed a chyfleusterau torri adderchog. Mae’r lladd-dy, sydd wedi’i gorfrestru gan gymdeithas y Pridd, yn darparu cig ar gyfer ei siop yn Nhregaron ac yn prosesu cig ar gyfer cigyddion a chynhyrchwyr lleol. Maent hefyd yn gwneud selsig, byrgers ac ati.

David Davies

Cigydd Teuluol traddodiadol ers dros 32 mlynedd, yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch safonol

Keith Davies

Busnes Teuluol yn gwerthu cig, ffrwythau a llysiau, nwyddau cyffredinol a diodydd meddwol, i gyd yn gynnyrch lleol.

G C Evans

Sefydlwyd y busnes hanner canrif yn ôl ac maent yn arbenigo mewn gwerthu cig lleol.

W B Evans

Cigydd Teuluol ers dros 50 mlynedd, yn cynhyrchu cig o’r gât i’r plat, yn gwerthu cig eidion a chig oen cartref, a dofednod maes dros y Nadolig.

Harmony Herd

Rydym yn gwerthu porc a chig Baedd Gwyllt, bacwn, sosejis a gamon trwy farchnadoedd ffermwyr yn Hwlffordd, Aberteifi, Aberystwyth a Dinbych-y-pysgod. Galwch draw a bydd yn bleser gennym drafod ein cynnyrch a’n dulliau ffermio. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Jones Bros

Cigydd teuluol traddodiadol sy’n arbenigo mewn cig ffres lleol a chigoedd parod.

TJL Lewis & Sons

Nantgwynfaen Organic Farm

Fferm deuluol sydd â thystysgrif Cymdeithas y Pridd. Rydym yn cynhyrchu cig ffowlyn, porc, bacwn, cig eidion ac wyau organig, ynghyd â chig hwyad a thwrci ar gyfer y Nadolig, i'r safonau uchaf. Rydym yn gwneud sosejis arbennig e.e. sosejis Cumberland, sosejis Eidalaidd Sbeislyd, sosejis Toulouse, sosejis cennin a rhai plaen. Rydym hefyd yn gwneud byrgers cig eidion a Tam Byrgers o gig ein moch Tamworth. Mae croeso i ymwelwyr grwydro o gwmpas y fferm neu aros yn y llety gwely a brecwast.

Dewi James a'i Gwmni

Busnes cigydd teuluol yn arbenigo mewn cigoedd lleol o’r ansawdd uchaf, gyda dros hanner can mlynedd o brofiad a gwybodaeth yn y maes. Mae ganddynt system ddibynadwy i olrhain tarddiad anifeiliaid. Dosberthir archebion i bob rhan o’r ardal yn rhad ac am ddim. Gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar.

Owain's Butchery

Rydym yn gwerthu cig eidion, porc a chig oen o'r safon uchaf. Cawsom Wobr Aur am ein byrgers cig oen a’n sosejis porc. Ar agor 6 diwrnod yr wythnos rhwng 8am-5.30pm

J & J Wearing

John Williams

Sefydlwyd y busnes ym 1998 ac mae’n cadw at ffyrdd traddodiadol o fagu moch pedigri Gloucester Old Spot a Berkshire ynghyd â rhai wedi’u croesi â moch Tamworth a baeddod gwyllt. Defnyddir bwydydd naturiol heb ychwanegion artiffisial i sicrhau bod y cig yn aeddfedu’n araf. Mae sosejis, gamon a bacwn ar gael mewn pecynnau gwactod, ynghyd â bacwn wedi’i halltu’n sych, ffagots ac wyau maes. Gellir prynu ½ mochyn o ddarnau cig ar wahân.