Ymddiheuriwn nad oes cyfeithiad Cymraeg gennym eto.

Cyfeirlyfr Bwyd | Cynnyrch Organig

Cynnyrch Organig

Chwilio o fewn 'Cynnyrch Organig'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

Blaencamel Farm

Rydym yn cynhyrchu ac yn gwerthu salads, llysiau a thatws organig yn syth o’r fferm. Mae gennym braidd pedigri o ddefaid Ile de France sy’n cynhyrchu cig a gwlân organig (organig ers 1974). Ar agor bob dydd ar gyfer llysiau a salads ffres. Llwybrau trwy’r coed a gerddi ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Cerdin Foods

Sefydlwyd y busnes ym 1983 gan gyflenwi bwydydd organig, cacennau a nwyddau eraill. Maent ar agor 6 diwrnod yr wythnos o 9 tan 5.

Ceri Organic

Rydyn ni’n tyfu llysiau organig ac yn gwerthu cynnyrch lleol ffres o safon uchel i’n cwsmeriaid e.e. cig, wyau, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau.

Cynhyrchwyr Organic Clettwr

Grŵp bach o ffermwr neu gynhyrchwyr, pob un ohonynt wedi’u cofrestru gan Gymdeithas y Pridd ac yn credu’n gryf mewn cyflenwi llysiau, ffrwythau ac wyau organig i gwsmeriaid lleol am brisiau cystadleuol. Maent yn gwerthu eu cynnyrch yn lleol.

Drefach Organic Nursery

Rydym yn arbenigo mewn tyfu tomatos bach organig a llysiau gwyrdd y gwanwyn. Cofrestrwyd gyda Chymdeithas y Pridd.

Harmony Herd

Rydym yn gwerthu porc a chig Baedd Gwyllt, bacwn, sosejis a gamon trwy farchnadoedd ffermwyr yn Hwlffordd, Aberteifi, Aberystwyth a Dinbych-y-pysgod. Galwch draw a bydd yn bleser gennym drafod ein cynnyrch a’n dulliau ffermio. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Maes yr Onnen Organic Strawberries

Mefus wedi cael eu tyfu yn organig, i’w casglu eich hun o Fehefin diweddar trwyddo i Orffennaf.

Mentro Lluest

Elusen sy’n dysgu pobl sydd ag anghenion arbenni i arddio yw Mentro Lluest. Maent yn tyfu llysiau a ffrwythau meddal organig ar dir sydd wedi ei gorfrestru gan Gymdeithas y Pridd. Gallwch hefyd brynu planhigion a basgedi crôg o’r safle sydd ar agor rhwng 10 – 4 o’r gloch, dydd Llun hyd ddydd Gwener.

Nantclyd Organic Farm Produce

Corfestrwyd Nantclyd gyda Chymdeithas y Pridd yn 1989, ac oddi ar hynny maent wedi ennill nifer o wobrau am eu cynnyrch ac am eu gwaith cadwraeth. Tyfir mefus a llysiau tymhorol.

Nantgwynfaen Organic Farm

Fferm deuluol sydd â thystysgrif Cymdeithas y Pridd. Rydym yn cynhyrchu cig ffowlyn, porc, bacwn, cig eidion ac wyau organig, ynghyd â chig hwyad a thwrci ar gyfer y Nadolig, i'r safonau uchaf. Rydym yn gwneud sosejis arbennig e.e. sosejis Cumberland, sosejis Eidalaidd Sbeislyd, sosejis Toulouse, sosejis cennin a rhai plaen. Rydym hefyd yn gwneud byrgers cig eidion a Tam Byrgers o gig ein moch Tamworth. Mae croeso i ymwelwyr grwydro o gwmpas y fferm neu aros yn y llety gwely a brecwast.

Organic Farm Foods

Sefydlwyd Organic Farm Foods Ltd gan grŵp o dyfwyr organig ym 1984 i greu marchnad ar gyfer llysiau organig ffres ledled Prydain. Daeth gorllewin Cymru i gael ei nabod fel prif ganolfan organig Prydain. Aeth Organic Farm Foods ati i chwilio am ffrwythau, stwff salad a llysiau o bedwar ban byd a oedd yn cyrraedd safonau organig uchel, yn cynnwys bwydydd masnach deg.

Rachel's Organic

Mae Rachel’s Organic, y llaethdy organig cyntaf i’w gorfrestru ym Mhrydain, yn cynhyrchu amryw o eitemau blasus o gynnyrch llaeth organig e.e. iogwrt, hufen, crème fraiche a llaeth, oll wedi’u pacio yn y cartonau du arbennig. Mae llawer o’r eitemau ar gael mewn pecynnau arlwyo yn ogystal ag mewn pecynnau bach ar gyfer y teulu.

Rhydlewis Organic Produce

Rydym yn tyfu llysiau organig gan gyflenwi dewis da o lysiau a dyfir mewn caeau ac mewn poly-dwneli. Rydym yn rhoi pwyslais ar ansawdd a ffresni.