Cyfeirlyfr Bwyd | Cyffeithiau, Mel a Mwstard

Cyffeithiau, Mel a Mwstard

Chwilio o fewn 'Cyffeithiau, Mel a Mwstard'
Dewch o hyd i enw cwmni sydd yn debyg i'r termau. Defnyddiwch * fel "wildcard".
Chwilio pellach

New Quay Honey Farm

Yn ogystal â chynhyrchu mêl mae’r New Quay Honey Farm yn ddefnyddio mêl i wneud mwstard, siytni, ffydj a medd o ansawdd uchel iawn.

Dilys Morgan

Ers 2000, mae Dilys wedi gwerthu Bara Brith a theisennau amrywiol mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau lleol a Chegin Cymru yn Aberaeron. Gwneir Cyffeithiau o gynnyrch tymhorol.

Cwca Cartre

Sefydlwyd Cwca Cartre gan bedair gwraig sy’n arbenigo mewn pobi cartref a gwneud cyffeithiau gan ddefnyddio cynnyrch lleol.

Llwynhelyg Farm Shop

Sefydlwyd y siop fferm yn 1983 ac mae’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig. Cewch gyfle i brynu llysiau, ynghyd â chig lleol, cynnyrch llaeth, amrywiaeth o gaws, hufen iâ cacennau a chyffeithau. Maent wedi ennill teitl “Siop Fferm Orau Cymru” a gwobr yng nghystadleuaeth Gwobrau Busnes Ceredigion 2002 ac wedi eu cydnabod gan Les Routiers. Mae’r Fferm 8 milltir o Aberteifi ar yr A487, ac ar agor bron bob dydd.

Popty Bach y Wlad

Lleolir y fenter deuluol adref ar y fferm, gan arbenigo mewn cacennau a chyffeithiau. Maent yn cyflenwi siopau lleol gydag amrywiaeth o gynnyrch, yn cynnwys bara brith, pice ar y maen, bara a chacennau, wedi’u seilio ar hen ryseitiau’r teulu. Maent yn rhedeg caffi ym Mhlas Dinefwr, Llandeilo ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, galwch draw am de Cymreig heb ei ail!

Rhydlewis Trout Farm and Smokery

Busnes bychan teuluol sy’n rhedeg eu tŷ mwg eu hunain ers blynyddoedd. Caiff y bwydydd eu sychu yn y ffordd draddodiadol dros dân derw a’u dosbarthu ledled Cymru yn ogystal ag i Ffrainc, yr Eidal ac America. Mae siop ar y safle’n gwerthu dewis da o gynnyrch lleol, yn cynnwys bwydydd mwg, jam, siytni ac ati.

Gwenynfa Cefn-y-Weilgi

The Welsh Mustard Company