Cebabs Ffowlyn wedi’u Marinadu

kebab 

Cynhwysion

  • 45ml/3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 30ml/2 llwy fwrdd mêl clir
  • 1 ewin garlleg
  • 5ml/1 llwy fwrdd teim sych

Cebabs

  • 500g/1 pwys 2 owns brest ffowlyn, wedi tynnu’r croen a’i dorri’n giwbiau 2.5cm
  • ½ pupur coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n sgwariau
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n drionglau (wedges)
  • 1 courgette, wedi’i sleisio

Dull

Cymysgwch gynhwysion y marinad mewn dysgl fas. Rhowch y darnau ffowlyn ynddo a’u troi nes bod y marinad drostynt i gyd.

Rhowch y ffowlyn ar 8 sgiwer pren am yn ail â darn o bupur, winwnsyn neu courgette.

Brwsiwch olew drostynt a’u coginio ar y barbeciw (neu o dan y gril) am 3-4 munud ar y ddwy ochr.

 Awgrym

Rhowch y sgiweri pren mewn dŵr am 10 munud rhag iddynt losgi mor gyflym ar y barbeciw neu o dan y gril.

 

 

 

lamb

Cynhwysion

  • 4 stecen coes oen
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew olewyd
  • 1 ewin garlleg
  • 10ml (2 lwy de) rhosmari sych
  • 4 bricyllen
  • 500g (1 pwys 2 owns) tatws
 
  1. Malwch yr ewin garlleg a’i roi mewn dysgl gyda’r olew olewydd a’r rhosmari. Ychwanegwch y stêcs cig oen a rhwbio’r marinad drostynt.  Gadewch nhw am o leiaf 20 munud.
  2. Berwch y tatws am 15 munud a’u draenio (gallwch eu coginio ymlaen llaw). Torrwch y bricyll yn eu hanner a thynnu’r cerrig.
  3. Coginiwch y stêcs ar y barbeciw am ryw 12–14 munud gan eu troi ar ôl rhyw 6 – 7 munud. Rhowch ychydig o olew dros y tatws a’r bricyll.  Rhowch nhw ar y barbeciw a’i grilio am y 5–6 munud olaf.

Awgrym

Rhowch ychydig o sbrigau o rosmari ar siarcol y barbeciw.  Mae’r gwynt yn hyfryd.

 

 No

Rholen Meringue Mefus a Mafon

Cynhwysion

  • 5 gwynwy
  • 275g/9½ owns siwgr caster
  • 25g/1 owns fflawiau almonau (flaked almonds)
  • potyn 284ml hufen dwbl
  • 250g/9 owns mafon
  • 250g /9 owns mefus
  • Papur pobi

Dull

Cynheswch y ffwrn i 220˚C, 425 ˚F, marc nwy 7.  Leiniwch dun pobi 33cm x 23 cm (13 modfedd x 9 modfedd) â phapur pobi gwrthlud.

Chwisgwch y 5 gwynwy â chymysgydd trydan tan eu bod yn stiff ac ychwanegwch y siwgr fesul tipyn nes bydd y gymysgedd yn stiff iawn. Taenwch y meringue yn y tun, sbrinclwch yr almonau drosto a’i roi yn y ffwrn am 10 munud.

Trowch wres y ffwrn i lawr i 170˚C, 325˚F, marc nwy 3 a’i goginio am 15 munud arall hyd nes y bydd yn frown euraid ac yn teimlo’n eitha solet.

Rhowch ddarn mawr arall o bapur pobi gwrthlud ar y bwrdd. Rhowch y rolen arno â’r almonau am i lawr.  Tynnwch y papur oddi ar y meringue. Gadewch iddo oeri.

Chwisgwch yr hufen nes ei fod pigau meddal yn sefyll arno a’i daenu dros y meringue. Sbrinclwch 150g (5½ owns) o’r mafon a 100g (3½ oz) o fefus wedi’u sleisio drosto.

Rholiwch yn dynn o’r pen hir. Codwch y rholen yn ofalus a’i rhoi ar blat gweini. Rhowch hi yn yr oergell am dipyn cyn ei bwyta. I wneud y coulis, rhowch y mefus a’r mafon sydd ar ôl mewn prosesydd bwyd a’u blendio nes y byddant yn llyfn. Rhowch trwy ogr os ydych am gael saws hollol lyfn.

 

Awgrym

Mae’r rholen yn rhewi’n dda: peidiwch â defnyddio mefus ond rhowch dipyn fwy o fafon. Lapiwch y rholen mewn ffoil a’i rhewi am hyd at fis.

Gadewch iddi ddadleth yn yr oergell dros nos.