Mae’n anodd i lawer ohonom ddychmygu bod pobl yn fyw heddiw sy’n cofio adeg pan mai cynnyrch cartref, tymhorol, oedd yr unig fwyd ffres a gaent. Heddiw, mae bwydydd o bedwar ban byd ar gael i ni trwy’r flwyddyn. Er bod hyn yn rhoi dewis eang i ni a bod llawer o’r bwydydd hyn yn rhai hwylus i’w paratoi, sy’n gyfleus iawn a ninnau mor brysur, mae llawer i’w ddweud dros brynu bwydydd ffres yn eu tymor gan gynhyrchwyr lleol.
Mae pobl yn dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd bwyta’n iach ac maent yn talu mwy o sylw erbyn hyn i ansawdd, tarddiad a natur ein bwyd a drwg-effeithiau deiet sâl ar ein hiechyd. Maent hefyd yn poeni am effeithiau cludo bwydydd yn bell ar yr amgylchedd ac ar ansawdd, maeth a ffresni’r bwyd. Yn ogystal, ni ellir bod mor siwr o amgylchiadau tyfu neu fagu bwydydd sydd wedi dod yn bell. Os prynwn fwyd yn ei dymor, er enghraifft mewn marchnadoedd ffermwyr, gall cynhyrchwyr lleol ddatblygu diwydiant bwyd mwy cynaliadwy er budd economi Ceredigion.
Fel rheol, mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu a’i brynu’n lleol o farchnadoedd ffermwyr neu’n uniongychol gan y cynhyrchydd, yn fwy ffres na bwyd o’r archfarchnad. Gallwch fod bron yn siwr y bydd cig anifeiliaid rhyddion ac wyau maes yn well o lawer na rhai fferm-ffatri. Mae pob math o fwydydd ffres, organig i’w cael yng Ngheredigion, sy’n cynnig hyd yn oed fwy o amrywiaeth i’r prynwr. Ceir llawer o fwydydd tymhorol yma, o foron i gig byffalo. Cewch gipolwg ar y bwydydd tymhorol ar dudalennau’r wefan.