Gwanwyn
![]() | ![]() | ![]() |
|---|
Cig Oen
Mae Cymru yn gyffredinol ac yn enwedig y siroedd gwledig fel Ceredigion yn enwog am eu cig oen. Mae llawer o bobl o’r farn fod cig oen ar ei orau yn y gwanwyn – gyda’i esgyrn bach main, a’i gig pinc sy’n fwy tyner nag ydyw yn yr haf neu’r hydref. Gofynnwch i’ch cigydd am gig oen lleol o Geredigion a mwynhewch ef mewn cinio traddodiadol neu mewn llu o wahanol rysetiau.
Cranc
Mae fy mab bach wrth ei fodd yn dal crancod y traeth oddi ar wal yr harbwr yn Aberaeron, ond nid oes raid mynd yn bell allan i’r môr i weld cewyll y pysgotwyr lleol yn barod i ddal y crancod coch, sy’n fwy o faint ac yn fwytadwy. I gael y blas gorau, ceisiwch gael cranc byw a’i goginio yn unol ag arweiniad yr RSPCA. Os na allwch stumogi hynny, gallwch brynu crancod wedi’u coginio’n barod o’ch siop bysgod leol. Hyfryd!
Sampier
Ychydig o bobl sy’n gwybod am y llysieuyn hwn a elwir hefyd yn ‘corn carw’r môr’. Mae’n tyfu ar hyd y glannau ac mae cnwd toreithiog ohono ger Aberteifi. Mae’n eithaf hallt a chrisp ac mae’n mynd yn dda gyda bwyd môr fel cregyn gleision a chranc. Dylech ei olchi’n dda o dan ddŵr sy’n rhedeg a gallwch ei fwyta’n ffres mewn salad. Mae siopau pysgod da yn ei werthu.
Llysiau a Ffrwythau
Merllys
Berw'r Dŵr
Blodfresych
Bresych
Brocoli
Cennin
Courgettes
Llysiau Gwyrdd
Madarch
Moron
Persli
Radish
Rhiwbob
Sbigoglys
Shibwns
Cig
Cig Oen
Porc
Pysgod
Cimychiaid
Cocos
Penfras
Hadoc
Lledod Chwithig
Lledod Llyfn
Eog
Sardîns


