Haf
![]() | ![]() | ![]() |
|---|
Mefus
Pwy all feddwl am yr haf heb ddychmygu dysglaid o fefus ffres a hufen? Mae llawer iawn o bethau y gallwch eu gwneud â mefus – pwdinau’r haf, trwyth ffrwyth neu jam. Mae’r ffrwythau suddlon hyn ar eu gorau’n ffres. Beth am ddod i gasglu’ch mefus eich hunain yn un o’r gerddi masnachol sy’n cynnig hynny yng Ngheredigion? Cewch fwynhau’r awyr iach a bydd gennych lond llestr o fefus cochion i’w dangos. Os yw hynny’n ormod o waith i chi, ewch draw i’ch siop fferm neu’ch marchnad ffermwyr leol.
Mecryll
Mae gwylio’r dolffiniaid trwyn potel yn cwrso heidiau o fecryll i’r bae yn y Cei Newydd ar ddiwrnod cynnes o haf yn olygfa gwerth ei gweld. Ond nid y dolffiniaid yn unig sy’n mwynhau mecryll ffres o’r Cei – mae pobl yn hoff iawn ohonynt hefyd. Maent i’w cael o siopau pysgod yr ardal neu o’r harbwr yn y Cei. Mae Ceredigion yn enwog am ei physgod ffres ac mae mecryll ymhlith y mwyaf adnabyddus. Dywedir bod mecryll ar eu mwyaf blasus os bwytwch nhw ar y diwrnod y cânt eu dal. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud â mecryll – eu mygu, eu stwffio, eu grilio neu hyd yn oed eu coginio ar y barbeciw. Gan eu bod yn llawn asidau brasterog iachus Omega 3 maen nhw’n lles i chi hefyd.
Tomatos
Mae digonedd o domatos ar gael yn yr haf ond does dim cymhariaeth rhwng y rhai di-flas sydd i’w cael yn ein harchfarchnadoedd â’r rhai cartref, lleol blasus. Mae’n werth gwneud yr ymdrech i chwilio am rai lleol. Gallwch fwyta tomatos ffres mewn salad neu mewn gwahanol brydau Eidalaidd, fel pizzas, cawl a sawsiau pasta. Mwynhewch nhw!
Llysiau a Ffrwythau
Merllys
Betys
Blodau Ysgaw
Brocoli
Ceirios
Cidnabêns
Ciwcymbyrs
Corn Melys
Cwrens cochion
Eirin
Ffa
Garlleg
Gwsberis
Letys
Mafon
Mangetout
Mefus
Moron
Pŷs
Radish
Sbigoglys
Tato Newydd
Tomatos
Wylys
Pysgod
Brithyllod Môr
Cathod Môr
Cimychiaid Coch
Eogiaid Gwyllt
Hyrddyn
Mecryll


