Hyfforddiant
Mae pob math o gymorth, cyngor a hyfforddiant ar gael i fusnesau yng Nghymru. Os ydych wrthi’n sefydlu’ch busnes eich hunan neu hyd yn oed os yw’ch cwmni wedi hen ennill ei blwyf, mae’n dda gwybod lle i gael cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i sicrhau llwyddiant y busnes. Gall cyrsiau hyfforddi eich helpu i ddysgu mwy am redeg busnes a rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chi.
Beth bynnag yw problem eich busnes – gwerthu a marchnata, cymorth cyntaf, deddfau cyflogaeth neu hylendid bwyd – gall y cysylltiadau isod eich arwain at gyngor a hyfforddiant. Gall Llygad Busnes eich cyfeirio at bob math o wybodaeth ac arbenigedd ac mae’n fan cychwyn ardderchog ar gyfer canfod gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch anghenion chi .
![]() | ![]() | ![]() |
| Canolfan Cydweithredol Cymru | Medrwn | Coleg Ceredigion |


