Gaeaf
![]() | ![]() | ![]() |
|---|
Ysbinbysgod y Môr
Mae ysbinbysg y môr ar ei orau yn y gaeaf pryd y caiff ei ddal ym Mae Ceredigion gan bysgotwyr y Cei Newydd neu oddi ar draeth Poppit. Dywedir ei fod yn un o’r pysgod mwyaf blasus sydd i’w gael; gwaetha’r modd, mae ei bris yn adlewyrchu hynny erbyn hyn. Os nad ydych yn hoffi paratoi pysgod i’w coginio eich hunan, bydd unrhyw un o’r gwerthwyr pysgod ardderchog sydd yn yr ardal yn barod i’w glanhau i chi. Mae sawl ffordd o goginio ysbinbysg y môr – potsio, stemio, pobi neu grilio – ond gofalwch beidio â’i or-goginio.
Cennin
Mae cennin yn cael eu cysylltu â Chymru er yr 16eg ganrif, er bod y stori’n mynd yn ôl hyd yn oed yn bellach. Dywedir i Dewi Sant orchymyn i'w filwyr wisgo cenhinen ar eu helmau pan oeddynt yn ymladd brwydr yn erbyn y Sacsoniaid paganaidd mewn cae yn llawn cennin. Dywedir hefyd i Gadwallon ap Cadfan ei gwisgo ym mrwydr Meigen yn 633. Mae gan y genhinen wreiddyn bychan a choes drwchus gyda dail fflat yn amgylchynu’r canol. Chwiliwch am liw da a dail tywyll cadarn pan fyddwch yn prynu cennin yn lleol. Maen nhw’n hawdd eu paratoi. Torrwch y gwreiddyn i ffwrdd, tynnwch y dail allanol a rinsio’r genhinen i gael gwared ag unrhyw bridd sydd rhwng y dail. Mae cennin yn flasus mewn pob math o gawl – cawl cennin traddodiadol neu gawl tatws a chennin – yn enwedig ar ddiwrnod oer.
Twrci
Er ein bod yn cysylltu twrci â chinio Nadolig ers slawer dydd, mae ar gael trwy’r flwyddyn erbyn hyn. Gallwch brynu briwgig, stêcs, coesau neu frest twrci. Mae nifer o bobl yn magu tyrcwn yng Ngheredigion; gallwch brynu’r cig yn eich siop gig leol neu’n syth o’r fferm. Mae llawer o ffermydd yn cynnig adar buarth yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae cig twrci ar ei orau’n ffres, ar ôl cael aeddfedu am rai dyddiau. Gallwch goginio twrci mewn nifer o wahanol ffyrdd – mewn cinio rhost traddodiadol neu mewn prydau mwy egsotig fel cyrri.
Llysiau a Ffrwythau
Brocoli Piws
Bresych
Bresych Cyrliog
Cennin
Cnau Castan
Erfin
Gellyg
Gwrdiau
Pannas
Ysgewyll
Seleriac
Seleri
Sialots
Swêds
Cig
Hwyad
Gwydd
Grugiar
Twrci
Pysgod
Lledod Mannog
Lledod Chwithig
Lledod y Môr
Ysbinbysgod y Môr
Lledod Garw


